Côr Meibion Y Foel
Ffurfiwyd y Côr gan Grȇs fel parti o ddynion i ganu yng Nghyngerdd Nadolig y Mileniwm yng Nghapel Ifan, Llannerch y medd. Yn gynnar yn 2001, yn dilyn llwyddiant y Cyngerdd ac
awydd yr aelodau i gystadlu yn Eisteddfod Môn oedd i’w chynnal Llannerch y medd, y ffurfiwyd Côr Meibion Y Foel.
Codwyd yr hen dref farchnad ganol oesol yn Llannerch y medd, ar fryn y Foel a dyna sut y cafwyd enw i’r Côr. Mae’r Côr yn cyfarfod yn yr Ysgoldy Capel Ifan,gyda’r aelodau yn teithio o bob rhan o Fôn i’r ymarferion bob nos Fawrth am 7:30 y.h.
Dros y degawd mae’r Côr wedi cefnogi Eisteddfodau lleol, cystadlu yn Eisteddfod Môn, codi arian tuag at nifer o achosion da ac wedi diddanu mewn cyngherddau, priodasau a chyfarfodydd eraill trwy Ogledd Cymru.
Maent wedi teithio i’r gogledd cyn belled â Falkirk ac Alloa yn yr Alban Bu y ddwy daith i Holmes Chapel i’r dwyrain yn 2008 a 2011 yn llwyddiant gyda’r ganolfan gymdeithasol yn orlawn. Tua’r de maent wedi teithio cyn belled â Plymouth gan rannu llwyfan gyda’r côr lleol; Côr Meibion Dyffryn Tamar.
Ym Medi 2008 rhyddhawyd CD cyntaf y Côr; Croesi’r Bont, ac yn Awst 2017 rhyddhawyd ail CD y Cor; Draw Dros Y Bont. Mae'r ddau CD yn cynnwys caneuon amrywiol yn y Gymraeg a Saesneg. (gweler Recordiau Cerddoriaeth)