Croeso Welcome
Croeso                                                                  Welcome

Grês Pritchard M.B.E

Mrs Grês Pritchard yw cyfarwyddwraig cerdd Côr Meibion Y Foel.

Mae'n hefyd cyfeilydd ac is-arweinydd Côr Meibion Y Traeth a chyfarwyddwraig côr merched Lleisiau Llannerch.  

Brodor o Benysarn, Ynys Môn yw Grês. Dechreuodd ganu’r piano pan oedd yn bum mlwydd oed.

 

Enillodd y ddwy Diploma A.L.C.M. a L.L.C.M. yn un ar bymtheg flwydd oed.

 

Bu’n fyfyrwraig yng Ngholeg Normal ym Mangor, gan arbenigo mewn cerddoriaeth yn ei chwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg.

 

Wedi gadael y Coleg bu’n dysgu plant ifanc mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal.

 

Ar gyfrif ei doniau fel cyfeilydd, bu galw am ei gwasanaeth mewn llawer o Wyliau ac Eisteddfodau yng Nghymru, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru.

 

Yn 2006 anrhydeddwyd Grês â’r Wisg Wen yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru am ei llwyddiant fel athrawes gerdd a’i chyfraniad fel cyfeilydd.

 

 Yn 2010 anrhydeddwyd hi â’r MBE am ei chyfraniad i gerddoriaeth ym Môn am dros ddeugain mlynedd.